Pendefigaeth yr Alban

Rhaniadau'r Bendefigaeth
  Pendefigaeth Lloegr
  Pendefigaeth yr Alban
  Pendefigaeth Iwerddon
  Pendefigaeth Prydain Fawr
  Pendefigaeth y Deyrnas Unedig

Mae Pendefigaeth yr Alban yn rhan o Bendefigaeth Prydain, ar gyfer y Pendefigion a grewyd yn Nheyrnas yr Alban cyn 1707. Gyda Deddfau Uno 1707, cyfunwyd teyrnasoedd yr Alban a Lloegr i greu Teyrnas Prydain Fawr, a chrewyd Pendefigaeth newydd Prydain Fawr, a daeth Pendefigion newydd yn rhan o'r Bendefigaeth honno.

Wedi'r Uno, etholodd Pendefigion yr Alban 16 o'u plith i'w cynrychioli yn Nhŷ'r Arglwyddi. Rhoddodd Deddf Pendefigaethau 1963 yr hawl i bob Pendefig yr Alban eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, hawl a gollwyd ynghyd â'r pendefigaethau etifeddol gyda Deddf Tŷ'r Arglwyddi 1999. Yn wahanol i bendefigaethau eraill, gall pendefigaeth Albaneg ei gario 'mlaen drwy'r linell benywaidd, a phan dim ond merched sydd i'w cael, caiff y teitl ei etifeddu gan y ferch hynaf yn hytrach na mynd i'r oediad.

Rheng Pendefigaeth yr Alban yw Dug, Ardalydd, Iarll, Isiarll, ac Arglwydd y Senedd. Mae gan Bendefigion yr Alban yr hawl i eistedd yn Senedd yr Alban. Mae'r teitl Barwn yn is i lawr y rheng nac Arglwyddi'r Senedd, ond, er eu bod yn deitlau bonheddig, ni ystyrir hwy fel arfer yn deitlau pendefig.

Yn tabl canlynol o bendefigion yr Alban, rhestrir teitlau uwch neu chyfartal yn y Pendefigaethau eraill. Os deilir y Bendefig, bendefig ym Mhendefigaeth Lloegr, Prydain Fawr neu'r Deyrnas Unedig, ac felly'n eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, rhestrir y teitl is hefyd. Dangosir deiliaid sawl Pendefigaeth Albaneg o dan y Bendefig uwch yn unig.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy